Defnyddio TrydaNi heb ffôn clyfar
Mae hi’n bosibl i ddefnyddio gwasanaeth TrydaNi os nad oes gennych chi ffôn clyfar.
Pan fyddwch chi’n ymuno yn aelod gyda ni, rhowch wybod nad oes gennych chi ffôn clyfar ac fe fyddwn ni’n anfon Cerdyn Mynediad i Gerbyd trwy’r post.
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfrifiadur i archebu eich sesiwn ar-lein drwy gyfrwng ein ap ar y we.
Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Mynediad i Gerbyd i ddechrau eich sesiwn a datgloi’r car.
CAM 1: (Datgloi’r car): Edrychwch am ddarllenydd lliw llwyd y Cerdyn Mynediad i Gerbyd ar ochr y teithiwr i’r ffenestr flaen. Daliwch eich cerdyn yno am 1-2 eiliad. Bydd hyn yn dechrau eich sesiwn ac fe ddylech chi fod yn clywed y car yn datgloi.
CAM 2: (Cloi’r car yn ystod eich sesiwn): Pan fyddwch chi’n parcio’r car yn ystod eich sesiwn, fe ddylech chi fynd â’r allwedd gorfforol sydd yn y blwch menyg a defnyddio honno i gloi a datgloi’r cerbyd cyn diwedd eich sesiwn.
Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad i’r cerbyd mewn mannau lle mae answadd y signal yn wan.
CAM 3: (Diweddu eich sesiwn): Ar ôl i chi blwgio i mewn a gwneud yn siŵr fod y car yn gwefru yn y Lleoliad Cartref, tapiwch eich Cerdyn Mynediad i Gerbyd un waith ar y darllenydd cardiau llwyd ii gloi’r card, ac eilwaith o fewn 20 eiliad i ddiweddu’r sesiwn a archebwyd.
Byddwch yn gallu gwybod eich bod wedi diweddu’r sesiwn yn llwyddiannus os bydd pob un o’r goleuadau ar y darllenydd cardiau wedi diffodd.
Os oes golau oren yn fflachio pan fyddwch chi’n tapio’r Cerdyn Mynediad i Gerbyd fe fydd hynny’n digwydd fel arfer os oes un o ddrysau’r car heb ei gau yn iawn. Agorwch a chaewch bob drws, yn cynnwys y gist, a rhowch gynnig arall arni.