Difrod



Fe wyddom ni fod damweiniau yn gallu digwydd, ac rydym ni’n gofyn i bawb drin y ceir gyda gofal fel eu bod yn ddibynadwy i’r gymuned i gyd.

  • Disgwylir traul arferol, ond os byddwch chi’n sylwi ar ddifrod amlwg i gerbyd, neu fod angen trwsio rhywbeth, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl trwy ffonio 0300 373 5500 neu drwy gyfrwng support@trydani.org
  • Os caiff eitem sy’n perthyn i TrydaNi (er enghraifft, agoriad neu gebl gwefru)  ei cholli neu ei difrodi yn ystod sesiwn ac nad yw’n rhywbeth y gallwn ni ei hawlio drwy yswiriant, efallai y bydd raid i ni godi am drwsio’r eitem neu brynu un newydd.
  • Drwy rannu cyfrifoldeb, a rhoi gwybod i bawb arall, gallwn sicrhau y bydd y ceir yn aros yn ddiogel, yn ffit i’w gyrru ar y ffordd, ac yn barod i bawb eu mwynhau nhw.
Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.