Cymuned WhatsApp
Pan fydd eich cais wedi ei gymeradwyo, cewch eich gwahodd i ymuno â grŵp WhatsApp gydag aelodau lleol eraill a staff cefnogi TrydaNi.
Mae’r grwpiau WhatsApp lleol yn caniatáu i aelodau i gyfathrebu â’i gilydd mewn ffordd rannol gyhoeddus, ac fe all hynny fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhanu gwybodaeth am unrhyw faterion gyda cherbyd, y system archebu, neu wefru. Fe all honno fod yn ffordd hwylus o gysylltu yn gyflym gyda TrydaNi i gael cefnogaeth.
Mae bod yn perthyn i’r grŵp WhatsApp yn gwbl wirfoddol ac mae pob diweddariad o ran y gwasanaeth (fel cerbyd heb fod ar gael am ei fod yn cael ei drwsio) yn cael eu rhannu gydag e-bost bob amser yn ogystal â’r grwpiau WhatsApp lleol.
Wrth ymuno â’r grŵp WhatsApp lleol, bydd aelodau yn cydsynio i rannu rhif eu ffôn gydag aelodau eraill yn y grŵp.