Dychwelyd car yn hwyr

Menter ym mherchnogaeth y gymuned ydym ni, ac felly rydym ni’n gweithio ar sail ewyllys da a chyfrifoldeb cyffredin. Er mwyn i’n clybiau ni weithio yn effeithiol, mae angen i’r aelodau ddychwelyd cerbydau ar amser fel gall pawb ddibynu ar y gwasanaeth.

Os ydych chi’n gwybod eich bod chi’n rhedeg yn hwyr, mae  estyn eich sesiwn yn yr ap yn rhwydd ac yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn osgoi trafferthion i aelodau eraill ac yn cadw rhediad y clwb yn llyfn.

Os na fyddwch chi’n newid eich sesiwn ac yn dychwelyd y car yn hwyr, bydd yr ap yn awtomatig yn ychwanegu’r amser/y gost ychwanegol am eich sesiwn ar gyfradd ar gyfradd 50% yn uwch na’r gyfradd safonol pob awr (£3 yn hytrach na’r £2 arferol).

Os cewch eich rhwystro gan rywbeth y tu hwnt i’ch rheolaeth  — fel amgylchiadau drwg ar y ffordd, damwain, torri i lawr, neu salwch difrifol — cysyllwch â ni cyn gynted â phosibl trwy ffonio 0300 373 5500 (cyn diwedd eich sesiwn yn ddelfrydol). Bydd hynny’n caniatáu i ni roi gwybod i unrhyw yrrwyr a fyddai’n cael eu heffeithio arnyn nhw.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.