Cael mynediad at y cerbyd gyda'ch ffôn
Yn gyffredin iawn, byddwch yn mynd i mewn i’r cerbyd drwy gychwyn eich sesiwn a datgloi’r cerbyd gyda’r ap. Mae angen i Bluetooth fod yn gweithio ar gyfer gwneud hyn.
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n cymryd yr agoriad corfforol o focs menig y car bob tro yn ystod eich sesiwn wrth i chi adael y car hanner ffordd drwy eich sesiwn. Mae hynny er mwyn sicrhau eich bod chi’n dal i allu mynd i mewn i’r car a’i yrru, hyd yn oed pe byddai batri eich ffôn yn fflat neu eich bod heb signal.
Llun o’r allwedd gorfforol ym mocs menig y Renault Zoe
Peidiwch ag anghofio dychwelyd agoriad corfforol y car i focs menig y car cyn i chi orffen eich sesiwn!.
Pan fyddwch chi wedi dychwelyd yr agoriad corfforol, defnyddiwch yr ap i gloi’r cerbyd a therfynu eich sesiwn (os gwelwch yn dda, nodwch fod pob un o’n safleoedd cartref ni wedi cael eu profi i fod â signal ffôn/rhyngrwyd sy’n ddibynadwy).