Batri isel ar ddechrau fy sesiwn
Mae ein platfform o dechnoleg yn caniatáu i ni fonitro lefelau batri o bell ac felly mae hi’n annhebygol iawn y bydd gan gerbyd lai na 50% o lefel batri pan fydd eich sesiwn yn dechrau ac fe fyddwn ni’n ceisio eich rhybuddio chi bob amser pan fydd hi fel hynny.
Mewn achosion prin (yn arbennig os ydych chi’n archebu ar y funud olaf), efallai na fydd hynny’n bosibl ac fe allai fod raid i chi ddefnyddio gwefru cyhoeddus i ddod i ben eich taith. Bydd hyn yn dibynnu ar union lefel y batri, ystod y cerbyd yr ydych chi’n ei logi a pha mor bell y bydd angen i chi deithio.
Os oes gan fatri’r cerbyd ystod o lai na 100 milltir wrth i chi ddod i’w gasglu, bydd TrydaNi yn ychwanegu credydau at eich cyfrif i’ch digolledu am gost gwefru cyhoeddus (mae hyn i’ch digolledu o’r ffi bob milltir sy’n berthnasol i 100 milltir cyntaf sesiwn a archebir). Os ydych chi wedi defnyddio cerbyd gyda gwefru isel wrth ddechrau ac nad ydym ni wedi cysylltu â chi eisoes, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.