Gwefru â gwefrwyr cyhoeddus ar eich taith
Apiau ar gyfer ffonau clyfar yw Zap map neu Plug Share y gallwch eu lawrlwytho yn ar-lein yn Appstore neu GooglePlay. Gallwch roi math a model y car TrydaNi i mewn ac fe fydd yn dangos pob un o’r pwyntiau gwefru perthnasol ar hyd eich llwybr teithio. Mae yna adolygiadau o’r gwefrwyr ac fe allwch chi weld a ydyn nhw ar gael hefyd. Mae hyn yn sicrhau y gallwch chi gynllunio eich taith yn effeithiol a diogelu rhag rhedeg allan o ynni cyn i chi gyrraedd pen eich taith.
Rydym ni’n argymell gadael digon ar gyfer o leiaf 50 milltir ar ôl yn y batri pan fyddwch chi’n meddwl am stopio i wefru. Fe ddylai hyn adael digon o ynni i chi fynd i chwilio am bwynt gwefru arall, rhag ofn na fydd yr un yr oeddech chi’n bwriadu ei ddefnyddio ar gael am unrhyw reswm. Os yw’r tywydd yn oer iawn efallai na fydd y mesurydd sy’n dangos faint sydd ar ôl yn y batri mor agos ati ag ym misoedd cynhesach y flwyddyn felly bydd y glustog yna’n caniatáu i chi liniaru hynny.
Mae hi’n syniad da hefyd i ymweld â gwefannau’r darparwyr mannau gwefru y gwnaethoch eu dewis nhw, i fod â’r wybodaeth fwyaf diweddar ar fath y gwefrw(y)r, eu defnydd diwethaf, statws cyfredol a chost y gwefru.
Ar gyfer sesiynau dros 100 milltir a archebwyd, fe fydd angen i chi ddefnyddio gwefrwr cyhoeddus a thalu am hynny eich hun felly (dyna pam nad ydym ni’n codi am filltiroedd ar ol y 100 cyntaf). Wrth ddefnyddio gwefwr cyhoeddus bydd angen talu gyda cherdyn banc.