Tollau a Dirwyon
Y chi sy’n gyfrifol am unrhyw gostau ariannol ychwanegol y gallech fynd iddyn nhw wrth yrru. Fe allai’r rhain gynnwys ond nid yn gyfyngedig i:
- Ddirwyon parcio
- Dirwyon am fynd dros derfyn cyflymder
- Tollau
- Taliadau atal tagfeydd
Fe ddylech chi dalu’r ffioedd perthynol yn uniongyrchol pan fo hynny’n bosibl. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd sy’n cael eu hanfon yn uniongyrchol atom ni er mwyn i chi eu talu. Gallai peidio â thalu unrhyw un o’r costau ariannol hyn arwain at atal eich aelodaeth.