Tynnu’r plwg i ddechrau taith
Pan fyddwch chi’n mynd at y car fel arfer fe fydd hwnnw wedi ei blygio i mewn ac yn gwefru trydan. Mae angen i chi ddechrau eich sesiwn a datgloi’r cerbyd cyn y bydd y cebl gwefru yn cael ei ryddhau. Yn ddibynol ar y cerbyd efallai y bydd yn rhaid i chi dynnu plwg y cebl mewn ffordd ychydig yn wahanol felly cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Bydd y cebl gwefru wedi cael ei blygio i mewn i’r car a’r gwefrwr fel ei gilydd. Bydd angen i chi dynnu’r ddau ben a dodi’r gwefrwr yn ddiogel yn ei fag pwrpasol sydd yn cael ei storio yng nghist y car cyn mynd ar eich taith. Mae’r gwefrwr yn aros yn y car pan nad yw wedi ei blygio i mewn.