System Credydau
Caiff archebion eu talu amdanyn nhw gyda chredydau y byddwch chi’n eu prynu drwy gyfrwng yr ap. Cyn i chi archebu sesiwn bydd angen i chi brynu pecyn o gredydau, fel gwelir isod.
Bydd gofyn i chi ddewis maint y pecyn yr hoffech ei brynu o blith y dewisiadau canlynol: £15, £30, £60 neu £100, £250 a £1000. Fe gewch eich tywys at borth taliadau diogel wedyn ar gyfer mewnbynnu manylion eich cerdyn talu.
Mae’n rhaid i chi fod â chredydau ar gyfer archebu sesiwn, ac fe gaiff cost eich taith ei thynnu o’ch mantolen o gredydau pan gaiff ei chwblhau. Mae eich mantolen i’w gweld bob amser yn adran My Credits yn yr ap.
Mae hanes trafodion (i’w gweld isod) yn nodi’r hyn y gwnaethoch ei wario ar amser a milltiroedd ar wahân, yn ogystal â dangos pryd y gwnaethoch chi brynu pecyn credydau newydd.

Ar ôl i chi dalu, bydd y rhain yn cael eu hychwanegu yn syth at eich cyfrif chi, ac yn barod i’w defnyddio. Ar ddiwedd eich taith caiff cyfanswm cost eich taith ei dynnu o gyfanswm eich credydau. Pe byddai digwydd i chi wneud mwy o daith a’r cyfanswm yn mynd yn fwy na swm eich credydau fe fyddwch chi’n mynd i gredydau negyddol a’r tro nesaf y byddwch chi’n talu am gredydau fe fydd y tâl yn mynd at dalu’r ddyled cyn ychwanegu’r hyn sydd dros ben at eich cyfanswm chi.