Hyundai Kona RA19 UBC
Cyn gyrru’r car TrydaNi hwn, gwyliwch y fideo hwn:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’r car am gyfnod hirach nag sydd ei angen, fel ei fod yn sicr yn cael ei ddychwelyd mewn pryd ar gyfer y person nesaf.
Dyma ragor o awgrymiadau defnyddiol i fynd gyda’r fideo hwn:
Datgloi’r car
Wrth ddechrau eich archeb, dim ond drwy’r ap y gallwch ddatgloi’r car.
Dod o hyd i’r allwedd
Pan fyddwch chi yn y car, mae angen i chi gymryd yr allwedd gorfforol o’r blwch menig.
Yn ystod eich taith, mae’n syniad da cloi a datgloi’r car gan ddefnyddio’r allwedd gorfforol.
Dad-blugio’r car
Weithiau mae angen defnyddio’r allwedd i ddatgloi’r car eto er mwyn rhyddhau’r cebl gwefru.
Cychwyn y car
Gwasgwch eich troed ar y brêc ar yr un pryd â throi’r allwedd.
Cysur
Dylai fod yn syml addasu’r gwres a chysylltu eich ffôn â’r sain.
Gyrru / Parcio
- P yw Parcio — mae angen defnyddio’r botwm brêc llaw hefyd
- D yw Gyrru, ond gallwch hefyd bwyso B os ydych am droi’r modd cymorth brêcio ymlaen
Gwefru
- Mae dau gerdyn gwahanol yn y car ar gyfer gwefru, yn dibynnu ar ba bwynt gwefru cyhoeddus rydych yn ei ddefnyddio.
- Mae pwyntiau gwefru ym maes parcio y Metropole ac ym maes parcio’r Stryd Fawr.
- Gwnewch eich gorau glas i sicrhau bod gan y person nesaf o leiaf 80% o wefr ar gyfer eu taith.
Gorffen yr archeb
Peidiwch ag anghofio rhoi’r allwedd yn ôl cyn cloi’r cerbyd a gorffen eich archeb drwy’r ap.