Renault Zoe HK20 GSZ

Gwyliwch y fideo hwn cyn cychwyn ar y ffordd yn y car TrydaNi hwn:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’r car am gyfnod hirach nag sydd ei angen, fel ei fod yn sicr yn cael ei ddychwelyd mewn pryd ar gyfer y person nesaf.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol pellach i fynd gyda’r fideo hwn:


Datgloi’r car

Wrth ddechrau eich archeb, dim ond drwy’r ap y gallwch ddatgloi’r car.


Dod o hyd i’r allwedd

Pan fyddwch chi yn y car, mae angen i chi gymryd yr allwedd gorfforol o’r blwch menig a’i rhoi o flaen y lifer gêr.


Dad-blugio’r car

Mae angen pwyso’r botwm rhyddhau er mwyn rhyddhau’r gwefrydd, neu bydd yn sownd.


Cychwyn y car

Gwasgwch eich troed ar y brêc ar yr un pryd â throi’r allwedd.


Cysur

Dylai fod yn syml addasu’r gwres a chysylltu eich ffôn â’r sain.


Gyrru / Parcio

  • P yw Parcio — mae’r brêc llaw yn dod ymlaen yn awtomatig
  • D yw Gyrru, ond gallwch hefyd bwyso B os ydych am droi’r modd cymorth brêcio ymlaen

Gwefru

Mae’r cerdyn yn y cerbyd ar gyfer gwefru wrth y pwynt gwefru cartref yn unig

(gweler ein fideo gwefru cyhoeddus ar wahân).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwefru’r car ar gyfer y person nesaf.


Gorffen yr archeb

Peidiwch ag anghofio rhoi’r allwedd yn ôl cyn cloi’r cerbyd a gorffen eich archeb drwy’r ap.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.