Renault Megane WM72 SWF

Gwyliwch y fideo hwn cyn cychwyn ar y ffordd yn y car TrydaNi hwn:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’r car am gyfnod hirach nag sydd ei angen, fel ei fod yn sicr yn cael ei ddychwelyd mewn pryd ar gyfer y person nesaf.

Dyma ragor o awgrymiadau defnyddiol i fynd gyda’r fideo hwn:

Datgloi’r car

  • Wrth ddechrau eich archeb, dim ond drwy’r ap y gallwch ddatgloi’r car.

Dod o hyd i’r allwedd

  • Pan fyddwch chi yn y car, mae angen i chi gymryd yr allwedd gorfforol o’r blwch menig.
  • Yn ystod eich taith, mae’n syniad da cloi a datgloi’r car gan ddefnyddio’r allwedd gorfforol.

Dad-blugio’r car

  • Weithiau mae angen defnyddio’r allwedd i ddatgloi’r car eto er mwyn rhyddhau’r cebl gwefru.

Cychwyn y car

  • Gwasgwch eich troed ar y brêc ar yr un pryd â throi’r allwedd.

Cysur

  • Dylai fod yn syml addasu’r gwres a chysylltu eich ffôn â’r sain.

Gyrru / Parcio

  • P yw Parcio — mae’r brêc llaw yn dod ymlaen yn awtomatig.
  • Mae’r lifer gêr ar ochr dde’r olwyn lywio.

Gwefru

  • Mae’r cerdyn yn y cerbyd ar gyfer gwefru wrth y pwynt gwefru cartref yn unig

(gweler ein fideo gwefru cyhoeddus ar wahân).


Gorffen yr archeb

Peidiwch ag anghofio rhoi’r allwedd yn ôl cyn cloi’r cerbyd a gorffen eich archeb drwy’r ap.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.