Renault Zoe YG70 YRT

Cyn gyrru'r car TrydaNi hwn, gwyliwch y fideo hwn:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’r car am gyfnod hirach nag sydd ei angen, fel ei fod yn sicr yn cael ei ddychwelyd mewn pryd ar gyfer y person nesaf.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol pellach i fynd gyda’r fideo hwn:


Datgloi’r car

Wrth ddechrau eich archeb, dim ond drwy’r ap y gallwch ddatgloi’r car.


Dod o hyd i’r allwedd

Pan fyddwch chi yn y car, mae angen i chi gymryd yr allwedd gorfforol o’r blwch menig a’i rhoi o flaen y lifer gêr.


Dad-blugio’r car

Mae angen pwyso’r botwm rhyddhau er mwyn rhyddhau’r gwefrydd, neu bydd yn sownd.


Cychwyn y car

Gwasgwch eich troed ar y brêc ar yr un pryd â throi’r allwedd.


Cysur

Dylai fod yn syml addasu’r gwres a chysylltu eich ffôn â’r sain.


Gyrru / Parcio

  • P yw Parcio — mae’r brêc llaw yn dod ymlaen yn awtomatig
  • D yw Gyrru, ond gallwch hefyd bwyso B os ydych am droi’r modd cymorth brêcio ymlaen
  • Bydd rhoi’r car yn y modd Eco yn rhoi ystod well i chi, ond mae’n cyfyngu ar y gwres

Gwefru


DIWEDDARIAD: Mae pwynt gwefru penodol bellach wrth y clwb bowlio, felly gallwch anwybyddu’r cyfarwyddiadau gwefru yn y fideo uchod. Gallwch adael y car wedi’i blygio i mewn ar ôl eich archeb.


Gorffen yr archeb

Peidiwch ag anghofio rhoi’r allwedd yn ôl cyn cloi’r cerbyd a gorffen eich archeb drwy’r ap.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.