Diwygio neu Ganslo archeb
✏️ Newid amser cychwyn neu orffen archeb
Gallwch ddiwygio neu newid amser cychwyn a gorffen eich archeb, drwy fynd i "My reservations".
Dewiswch yr archeb rydych chi am ei newid, ac yna tapiwch/cliciwch ar "Edit" ar y gwaelod.
Yna bydd yn gofyn i chi ddewis amser/dyddiad cychwyn ac amser/dyddiad gorffen newydd.
Noder: os ydych chi eisoes wedi dechrau'r archeb hon, ni fyddwch chi'n gallu newid y dyddiad cychwyn, a dim ond 30 munud cyn i'r archeb nesaf ddechrau y byddwch chi'n gallu newid eich archeb i ddod i ben.
Mae'r amser byffer 30 munud hwn yn caniatáu i'r car gael ei ailwefru rhwng archebion.
Os oes angen i chi newid y dyddiad, gallwch wneud hyn drwy dapio "Change" a dewis y dyddiad newydd.

Tapiwch "Confirm" i gadarnhau'r dyddiad/amser cychwyn newydd.
❗ Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr ac mae'r car wedi'i archebu yn fuan ar eich ôl chi, ffoniwch ni ar 0300 373 5500 fel y gallwn geisio hysbysu'r aelod nesaf.
❌ Canslo archeb
Gallwch ganslo eich archeb drwy fynd i “My reservations”.
Dewiswch yr archeb rydych chi am ei newid, ac yna tapiwch/cliciwch ar “Cancel” ar y gwaelod.
Bydd yn gofyn i chi gadarnhau eich canslo, y gallwch ei wneud trwy dapio "Yes".

👉 Ffioedd canslo
Os byddwch yn canslo'ch archeb o leiaf 15 munud cyn y dyddiad cychwyn, byddwch yn cael ad-daliad am gost gyfan yr archeb.
Noder: Hyd yn oed os na fyddwch chi'n tapio "Begin reservation", bydd ein system yn cymryd cost yr oriau rydych chi wedi'u harchebu ar eu cyfer yn awtomatig, oni bai eich bod chi wedi cymryd y camau uchod i ganslo'ch archeb.
Mae hyn oherwydd bod y car wedi'i gadw ar eich cyfer chi, ac ni all unrhyw un arall ei ddefnyddio yn ystod eich cyfnod archebu.