Cefnogwyr Cymunedol
Cwmni Budd Cymunedol yw TrydaNi, ac rydym ni’n annog ein haelodau i helpu wrth redeg ac ehangu eu clwb lleol. Gall aelod sy’n dymuno helpu i redeg ei glwb yn gyfnewid am gredydau gyrru fynd yn un o ‘Gefnogwyr Cymunedol’ TrydaNi drwy helpu gyda’r tasgau canlynol:
- Glanhau’r car (misol)
- Cynnal gwiriadau diogelwch (misol)
- Rhedeg sesiynau i helpu Aelodau newydd i ymgyfarwyddo (fel bydd angen)
- Mynd â’r car i’r garej i’w drin neu ei drwsio
I fod yn gymwys i fod yn Gefnogwr Cymunedol, mae’n rhaid i aelod fod:
- Yn aelod am ddim llai na mis
- Wedi archebu/cwblhau tair taith yn llwyddiannus
- Yn aelod o grŵp WhatsApp y grŵp lleol
- Wedi anfon ffurflen gwiriadau ar-lein misol enghreifftiol
- Wedi llwyddo i basio prawf byr ynglŷn â sut mae’r clwb yn gweithio (yn cynnwys gwefru)
Disgwylir i bob un o’r tasgau uchod gymryd hyd at awr i’w gorffen ac maen nhw’n ennill hyd at £25 mewn credydau gyrru i’r Cefnogwr Cymunedol (yn ogystal ag unrhyw gostau ariannol ychwanegol fel deunyddiau glanhau, hyd at gyfanswm o £15). Ar gyfer tasgau sy’n gofyn am yrru’r car (e.e. wrth fynd ag ef i’r garej), fe fyddwn ni’n rhoi’r credydau ychwanegol angenrheidiol yn eich cyfrif chi er mwyn gwneud y daith.
Caiff hyd at dri Chefnogwr Cymunedol ei benodi ar gyfer pob clwb ac rydym ni’n defnyddio ffurflen ar-lein i olrhain pa dasgau sydd wedi cael eu cwblhau a’u hamseriad (caiff y broses lawn ei hegluro pan fyddwch chi’n gwneud cais).
I roi eich enw fel ymgeisydd i fod yn Gefnogwr Cymunedol i’ch clwb lleol chi (neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut mae hyn yn gweithio), os gwelwch chi’n dda, cysylltwch â support@trydani.org.