Y drefn wrth wneud cais

Yn gyntaf, gofynnwn i chi ddarllen ein Telerau ac Amodau er mwyn sicrhau eich bod yn deall sut mae’r gwasanaeth yn gweithio, a beth sy’n ofynnol gennych chi.

Gwneir ceisiadau drwy ein hap, sydd ar gael ar gyfer eich ffôn clyfar neu drwy eich porwr. Bydd angen eich trwydded yrru a chod gwirio DVLA arnoch.

Mae’n bwysig nodi: wrth nodi eich rhif ffôn, mae angen defnyddio’r fersiwn ryngwladol: +44 (gollwng y sero) xxxxxxxxxx

Yna byddwn yn gwirio eich manylion, ac os byddwch yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd, cewch eich ychwanegu at ein polisi yswiriant fel bod gennych y sicrwydd angenrheidiol i yrru ein cerbydau. Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau bod eich aelodaeth yn weithredol, ynghyd â manylion llawn ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth a’n cerbydau.

Rydym yn ymdrechu i brosesu ceisiadau aelodaeth cyn gynted â phosibl, ond nodwch y gall hyn gymryd hyd at 3 diwrnod gwaith.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.