Yr ap

Gellir archebu, datgloi a chloi ein cerbydau i gyd gydag ap TrydaNi, sydd ar gael ar gyfer teclynau for Android ac Apple/iOS. Gallwch ddefnyddio fersiwn o’r ap sydd ar y we (yr “ap ar y we”) drwy gyfrwng ein gwefan os yw hynny’n well gennych chi (neu os  nad oes ffôn clyfar gennych chi). Mae manylion am bob un o’r tair fersiwn o’r ap i’w cael yma


Mae’r ap a’r platfform oddi tanodd ar gyfer archebu wedi cael eu datblygu gan The Mobility Factory, sef cwmni technoleg cydweithredol a leolir yn Ewrop sy’n gweithio gyda rhwydwaith o grwpiau ynni cymunedol ar draws nifer fawr o wledydd. Mae TrydaNi yn un o’r aelodau yn eu rhwydwaith o grwpiau cydweithredol, sy’n gweithio gyda’i gilydd i barhau i wella’r platfform. 


Os oes gennych chi unrhyw adborth am yr ap (da neu ddrwg) fe fyddwn ni’n falch iawn o glywed, ac adroddwch am unrhyw broblemau neu fygiau, os gwelwch chi’n dda. Fe allwch chi gysylltu â ni drwy gyfrwng support@trydani.org neu ffonio 0300 373 5500.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.