Yswiriant a thâl dros ben
Mae TrydaNi yn sicrhau bod y Cerbydau wedi cael eu trethu yn llawn, â thystysgrif MOT ddilys ac wedi eu hyswirio yn briodol ar gyfer defnydd cyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus.
Wedi cwblhau’r broses o wneud cais fe fyddwn ni’n gwirio gyda’n hyswiriwyr eich bod chi’n gymwys i yrru yn unol â’n polisi.
Os nad ydych chi’n gymwys yn ôl meini prawf ein hyswiriant safonol fe fyddwn ni’n ymgynghori â’n darparwr yswiriant i gael gwybod os gallan nhw wneud eithriad ar sail y manylion yn eich cais. Os ydyn nhw’n fodlon gwneud eithriad, fe fydd hyn yn gofyn caniatâd ein tanysgrifenwyr, sy’n gallu cymryd hyd at bythefnos.
Tâl Dros Ben:
Pe byddai damwain neu ddifrod fel arall yn digwydd i’r cerbyd, cyfyngir atebolrwydd yr Aelod i gost y trwsio, heb fod yn ddim mwy na £250 a £50 i dalu costau gweinyddol.
Ar sail eich hanes o yrru a hawlio, gall ein hyswirwyr ofyn i ni dalu premiwm ychwanegol a/neu ddechrau tâl dros ben ychwanegol cyn y gallwn ni gymeradwyo eich cais chi.
Yn yr achos hwn, byddwn yn adolygu eich sefyllfa chi ac fe allem ni ofyn i chi dalu’r premiwm dros ben a/neu dalu blaendal y gellir ei gael yn ei ôl, y bydd ei swm yn ddim llai na 25% o werth cyfanswm eich tâl yswiriant dros ben ar y pryd. Os nad ydych chi’n cytuno i dalu’r premiwm ychwanegol a/neu’r blaendal ar gyfer y tâl dros ben, ni chaiff eich cais am aelodaeth ei gymeradwyo.
Pan fo angen, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu taliad am unrhyw dâl yswiriant dros ben. Rydym yn cadw’r hawl i bennu dyddiad cau ar gyfer ad-dalu a diddymu eich aelodaeth pe na chaiff y taliad ei wneud yn llawn erbyn y dyddiad cau.
Yn dilyn damwain ers i chi ddod yn aelod, gallai ein hyswirwyr ofyn i ni dalu premiwm ychwanegol a/neu ddechrau tal dros ben ychwanegol er mwyn i’r Aelod barhau i ddefnyddio Cerbydau. Yn yr achos hwn, byddwn yn adolygu eich sefyllfa ac efallai yn gofyn i chi dalu’r premiwm ychwanegol a/neu dalu blaendal y gellir ei gael yn ei ôl, y bydd ei swm yn ddim llai na 25% o werth cyfanswm eich tâl yswiriant dros ben ar y pryd. Os nad ydych chi’n cytuno i dalu’r premiwm ychwanegol a/neu’r blaendal ar gyfer y tâl dros ben, caiff eich aelodaeth ei therfynu a chaiff unrhyw gredydau yn eich Cyfrif eu had-dalu.