Cloi/Datgloi’r car

Pan fyddwch chi’n dechrau’r sesiwn bydd angen i chi ddefnyddio’r ap ffôn clyfar (neu Gerdyn Mynediad i Gerbyd os gwnaethoch chi ofyn am un). Yn ystod eich sesiwn rydym ni’n argymell defnyddio’r agoriad corfforol o’r car i gloi/datgloi’r cerbyd pan fyddwch chi’n parcio i ffwrdd oddi wrth y lleoliad cartref. 

I ddatgloi’r cerbyd ar ddechrau eich sesiwn, a’i gloi yn sâff ar ddiwedd eich sesiwn, dilynwch y cyfarwyddiadau a ganlyn. 


Gyda ffôn clyfar

Datgloi: Dechreuwch eich sesiwn gan ddefnyddio’r botwm “Start usage” ac yna tapiwch/cliciwch ‘Unlock’ i ddatgloi’r car.


Cloi: Gwnewch yn siŵr fod y drysau wedi cael eu cau yn iawn i gyd, a bod yr injan wedi diffodd a bod yr agoriad corfforol yn y blwch menig. Wedyn tapiwch/cliciwch y botwm ‘Lock ' coch yn yr ap. Gwnewch yn siŵr fod y drysau wedi cloi yn iawn cyn gorffen eich sesiwn.


Gyda Cherdyn Mynediad i Gerbyd 

Datgloi: Tapiwch y Cerdyn Mynediad i Gerbyd ar y darllenydd cardiau ar ochr y teithiwr yn y car.


Cloi: Gwnewch yn siŵr fod y drysau wedi cau yn iawn i gyd, a bod yr injan wedi diffodd. Tapiwch y Cerdyn Mynediad i Gerbyd ar y darllenydd cardiau ar ochr y teithiwr yn y car. 

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.