Cyfrifon Bilio ar y Cyd
Pris TrydaNi ar gyfer Sefydliadau yw £15/mis ar gyfer sefydliadau masnachol a £10/mis ar gyfer rhai nid-er-elw.
Mae cyfrif bilio ar y cyd yn galluogi staff sefydliad i gofrestru fel aelodau ac archebu cerbydau yn ôl y drefn arferol, ond yn hytrach na phrynu credydau, caiff terfyn y credydau ei bennu gan berchen y cyfrif bilio ar y cyd, a’i dalu amdano yn fisol.
Pan fydd eich sefyldiad yn cofrestru fe fyddwn ni’n gofyn i chi bennu uchafswm cyllid misol er mwyn i chi fod yn sicr na fyddwch chi’n cael bil mawr yn annisgwyl (fe allwn ni gynyddu’r gyllideb mewn mis arbennig pe byddai angen).
Eich penderfyniad chi yw caniatáu i’ch staff ddefnyddio cerbydau at ddefnydd personol yn ogystal â’u hanghenion o ran teithio gyda’r gwaith. Wedyn, fe all eich tîm chi fwrw ymlaen ag archebu’r cerbyd drwy gyfrwng yr ap neu’r wefan fel unrhyw aelod arall. Byddwn yn anfon bil i chi am eich ôl-ddyledion ar gyfer pob mis am yr archebion sydd wedi bod.
Os oes cyfrif bilio ar y cyd gennych chi mae’r drefn i archebu ychydig yn wahanol:
Pan fyddwch chi wedi dewis yr amseroedd ar gyfer eich archeb fe welwch chi flwch gyda’r teitl “Create reservation for” pryd y cewch chi gynnig i ddewis naill ai eich clwb ceir lleol (ar gyfer archebion personol) neu eich cyfrif bilio ar y cyd (ar gyfer archebion sefydliadol),
(Os nad ydych chi’n gweld enw eich sefydliad nac enw eich clwb ceir lleol, cysylltwch â ni.)
Mae archebion cyfrifion bilio ar y cyd i’w gweld gydag unrhyw archebion personol yn “My reservations”