Sesiynau ymgyfarwyddo


Rydym ni’n annog ein haelodau i gael sesiwn ymgyfarwyddo personol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo yn hyderus wrth archebu a gyrru.


Yn ystod sesiwn ymgyfarwyddo byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r ap, sut i ddefnyddio’r pwynt gwefru pan fyddwch chi’n codi ac yn dychwelyd cerbyd, ac yn arddangos prif nodweddion y cerbyd i chi.


I drefnu sesiwn naill ai anfonwch neges yn eich Grŵp WhatsApp lleol neu anfonwch e-bost i ni yn support@trydani.org. Bydd Cydlynydd Clybiau Ceir TrydaNi neu un o’n haelodau ni sy’n Hyrwyddwyr Cymunedol yn falch o’ch helpu.

Did this answer your question? Thanks for the feedback There was a problem submitting your feedback. Please try again later.