Cydlynydd Clybiau Ceir
Mae gan TrydaNi dri Chydlynydd Clybiau Ceir sy’n sicrhau bod ein rhwydwaith o glybiau yn rhedeg yn llyfn. Ar y cyd â Chefnogwyr Cymunedol, mae’r cydlynwyr yn gyfrifol am drefnu cynnal a chadw, a thrwsio cerbydau, arwain sesiynau ymgyfarwyddo a chefnogi aelodau sydd ag unrhyw gwestiynau neu broblemau a allai godi. Gellir cysylltu â chydlynwyr drwy gyfrwng Grwpiau Whatsapp neu drwy anfon e-bost i support@trydani.org.